Mae canolfan ym Mro Morgannwg, fydd yn cynnal gweithgareddau i helpu myfyrwyr chweched dosbarth gael lle mewn prifysgolion blaenllaw, yn cael ei lansio’n swyddogol heddiw.
Bwriad canolfannau Seren yw ffurfio partneriaeth rhwng ysgolion a cholegau addysg bellach â phrifysgolion gan roi hwb i tua 2,000 o fyfyrwyr mwya’ disglair Cymru i wireddu eu potensial academaidd.
Y lansiad yng Ngwesty’r Fro fydd yr ola’ mewn cyfres o lansiadau mewn rhwydwaith o 11 o ganolfannau eraill.
Fe all y myfyrwyr elwa ar fynediad i sgyrsiau neu weithdai mewn prifysgolion a’r wybodaeth ddiweddaraf am wneud cais i brifysgolion.
Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, nad yw myfyrwyr Cymru yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn prifysgolion fel Caergrawnt a Rhydychen ar hyn o bryd, “er eu bod yn cael graddau tebyg yn eu harholiadau TGAU a Safon Uwch”.
“Y myfyrwyr hyn yw ein harbenigwyr a’n harweinwyr ar gyfer y dyfodol, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n datblygu amgylchedd dysgu lle gallan nhw ffynnu’n wirioneddol.”