Mae Cymry yng nghanol y drafferth yn India ar ôl i lywodraeth y wlad benderfynu cael gwared â pheth o’i phapur arian er mwyn mynd i’r afael â phroblemau llygredd.

Cafodd y gwaharddiad ar bapurau 500 rwpî a 1,000 rwpî ei gyflwyno’n annisgwyl dros nos yr wythnos ddiwethaf.

Mae Sioned James o Abertawe a Siôn Owens o Gaernarfon yn y wlad ar hyn o bryd ac wedi anfon y fideo yma sy’n egluro’r sefyllfa.

Mae’r ddau yn India am dair wythnos arall, ac wrth siarad â golwg360, dywedodd y ddau fod disgwyl i’r broblem gael ei datrys erbyn diwedd yr wythnos.

Mae cyfyngiad o 2000 rwpî (£25) ar faint o arian y mae pobol yn gallu tynnu o fanciau ac mae hynny wedi creu anhrefn ar y strydoedd.

“Lot o ffraeo”

“Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu cael gwared â’r papurau 500 rwpî a 1,000 rwpî, nathon nhw wneud hyn heb unrhyw rybudd mwy neu lai,” meddai Siôn Owens.

“Mae’r papurau ‘na’n redundant, mae’n equivalent o tua £5 neu £10 ac rydach chi’n gorfod newid nhw i bapurau 100 rwpî sef jyst dros £1.

“Rwan, does ‘na ddim digon o bapurau 100 rwpî i’r bobol i gyd. Does ‘na ddim pres yn yr ATMs (peiriannau twll yn y wal), felly ti ‘mond yn gallu newid nhw mewn banciau.

“Ma’ hwn ‘mond yn un banc yn Agra ac mae ‘na gannoedd o bobol yma yn ymladd i drio mynd i mewn [i’r banc].

“Mae ‘na lot o ffraeo, mae ‘na lot o drafferth achos dydy India ddim yn defnyddio cardiau mor aml â ma’ pobol ym Mhrydain yn gwneud.

“Felly mae’n lot o drafferth ond rydan ni’n eitha’ lwcus gan fod dal gennym ni ychydig bach o cash ar ôl mewn 100 rwpîs ac rydan ni’n gallu talu am hotels ar-lein.

“Felly rydan ni’n iawn, ond dwn i ddim am y rhain.”