Y diweddar Eifion Gwynne (llun; Clwb Rygbi Llanymddyfri)
Daeth cannoedd o bobl ynghyd i angladd Eifion Gwynne yn Abertystwyth heddiw.

Roedd y sgwâr y tu allan i Gapel y Morfa yn orlawn wrth i alarwyr ddod i dalu teyrnged i’r trydanwr o’r dref a gafodd ei ladd yn Malaga yn Sbaen.

Roedd wedi cael ei daro i lawr gan gar mewn damwain yno ar 22 Hydref. Fe fyddai wedi dathlu ei benblwydd yn 42 oed ddeuddydd yn ddiweddarach.

Roedd yn ddyn poblogaidd a gafodd ei ddisgrifio fel rhywun a fyddai’n gwneud ei orau dros bawb, ac yn adnabyddus i lawer fel chwaraewr a hyfforddwr rygbi.

Mae’n gadael ei wraig Nia, ei blant Mabli, Modlen ac Idris, naw o frodyr a chwiorydd a’i fam Anne a roddodd deyrnged iddo yn yr angladd.