David Nicholas Davies (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae David Nicholas Davies wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio ei gyn-bartner, Emma Louise Baum, ym Mhen-y-groes ym mis Gorffennaf eleni. Mae wedi ei orchymyn i dreulio beth bynnag 22 mlynedd dan glo.

Daethpwyd o hyd i Emma Louise Baum, 22, yn farw yng ngardd gefn ei chartref yn Ffordd Llwyndu, Pen-y-groes ar Orffennaf 18. Roedd Emma, a oedd yn byw efo ei mab ifanc, Steffan, wedi marw o anafiadau difrifol i’w phen yn dilyn ymosodiad.

Roedd Davies o Res Penrhiw, Clynnog eisoes wedi pledio’n euog i’w llofruddio, er nad oedd o’n derbyn achos llawn yr erlyniad  yn ei erbyn. Heddiw yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, daeth y Barnwr i’r casgliad y dylai gael ei ddedfrydu i garchar am oes, ac mae wedi cael gorchymyn i dreulio o leiaf  22 o flynyddoedd dan glo.