Llun: PA
Mae 28% o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru yn ôl ffigurau newydd gan gynghrair o elusennau sy’n dwyn yr enw End Child Poverty.

Mae eu ffigurau’n amlygu fod mwy na 3.5 miliwn o blant yn byw mewn tlodi ar draws y Deyrnas Unedig, gyda’r ganran ar ei uchaf mewn dinasoedd fel Llundain, Birmingham a Manceinion.

O ran awdurdodau lleol Cymru, Blaenau Gwent a Chaerdydd oedd â’r ganran uchaf o dlodi plant, sef 32.2%. Yn eu dilyn nhw mae Merthyr Tudful gyda 31.4%, Casnewydd gyda 30.8% a Phen-y-bont ar Ogwr gyda 29.8%.

Ar waelod y rhestr oedd Sir Fynwy gyda 20.6%, yna Powys â 21.5% a Sir y Fflint â 22.6%.

Tlodi plant

“Ymhob cymuned mae yna blant sy’n cael eu hamddifadu o’r plentyndod hapus a’r dechrau da mewn bywyd y mae plant eraill yn ei gymryd yn ganiataol,” meddai Sam Royston, Cadeirydd End Child Poverty.

“Mae ein plant nawr ddwywaith mor debygol o fod yn dlawd â’n pensiynwyr,” meddai wedyn.

Am hynny, mae End Child Poverty yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddefnyddio Datganiad yr Hydref i ddadwneud toriadau i fudd-daliadau Credyd Cynhwysol i deuluoedd sy’n gweithio ac i roi terfyn ar rewi budd-daliadau plant.

“Fe fydd llawer o deuluoedd sydd ddim ond yn llwyddo heddiw ddim yn llwyddo yfory os bydd Credyd Cynhwysol yn eu gadael â llai o arian yn eu pocedi, ac os bydd costau byw yn codi sy’n golygu na fydd eu harian yn mynd mor bell ag yr arferai,” meddai.

Tlodi plant fesul pob awdurdod lleol

Dyma restr gyflawn o ganran o dlodi plant fesul pob awdurdod lleol:

  • Blaenau Gwent: 32.2%
  • Caerdydd: 32.2%
  • Merthyr Tudful: 31.4%
  • Casnewydd: 30.8%
  • Pen-y-bont ar Ogwr: 29.8%
  • Castell-nedd Port Talbot: 29.3%
  • Rhondda Cynon Taf: 29.2%
  • Sir Gaerfyrddin: 28.7%
  • Torfaen: 28.7%
  • Caerffili: 28.3%
  • Abertawe: 27.9%
  • Sir Ddinbych: 27.6%
  • Sir Benfro: 27.2%
  • Conwy: 26.9%
  • Ynys Môn: 26.9%
  • Ceredigion: 26.1%
  • Wrecsam: 25.8%
  • Bro Morgannwg: 24.7%
  • Gwynedd: 23.1%
  • Sir y Fflint: 22.6%
  • Powys: 21.5%
  • Sir Fynwy: 20.6%