Julie James
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd buddsoddiad gwerth £80 miliwn i gynllun band eang cyflym, gydag addewid y bydd eiddo yng Nghymru wedi’i gysylltu â band eang cyflym a dibynadwy erbyn 2020.

Y cynllun hwn fydd yn olynu  prosiect Cyflymu Cymru sydd eisoes wedi dod â band eang cyflym iawn i bron 614,000 o eiddo yng Nghymru gyda’r Llywodraeth yn rhagweld 100,000 eiddo arall wedi’u cysylltu erbyn cau’r prosiect yn 2017.

Er mwyn cysylltu’r ychydig eiddo hynny nad yw Cyflymu Cymru neu fenter fasnachol wedi llwyddo i’w cyrraedd, caiff arolwg o’r Farchnad Agored ei chynnal ym mis Tachwedd i weld, fesul eiddo, ble yn union y mae band eang cyflym iawn ar gael.  Defnyddir yr wybodaeth i lywio’r cynllun nesaf a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2018.

Dywedodd Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Julie James, “Mae Cyflymu Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae’r cynllun ymhell o fod wedi gorffen, gyda mwy o eiddo’n cael ei gysylltu bob dydd.  Mae’n brosiect anodd ac uchelgeisiol, ond mae’n mynd â’r maen i’r wal.”

Ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £162 miliwn o arian cyhoeddus ar fand eang yng Nghymru, gyda buddsoddi £62 miliwn arall yn y flwyddyn olaf.

Ychwanegodd Julie James, “Mae bron 614,000 eiddo bellach wedi’u cysylltu â band eang cyflym iawn, diolch i’r prosiect. I fod yn glir, ni fyddai gan y safleoedd hynny fand eang o gwbl oni bai am y cynllun.”

‘Croesawu’r arian ychwanegol’

Mae’r  Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r arian ychwanegol er mwyn ehangu band llydan cyflym i Gymru gyfan.

Dywedodd llefarydd y blaid ar yr economi, Russell George: “Rydym yn croesawu’r newyddion fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar alwadau gan y Ceidwadwyr i weithredu ar fand llydan cyflym, ond mae hanes diweddar yn dangos nad yw’n gwireddu ei haddewidion.

“Er gwaetha gwario £162 miliwn ar brosiect Superfast Cymru, mae llawer o gymunedau  naill ai dal yn aros am fynediad i fand llydan neu heb gael eu hannog i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.”

“Y mae’n hanfodol bod gwersi’n cael eu dysgu, a bod yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol i wella cyswllt band llydan ledled Cymru.”