Fe fydd mwy o bobol nag erioed yn cymryd rhan yn Ras Pabïau Gwent sy’n dechrau am 12 o’r gloch heddiw.
Mae 225 o redwyr yn paratoi ar gyfer y ras sy’n dechrau ar dir fferm ym Mhenpergwm ac sy’n nodi canmlwyddiant Brwydr y Somme eleni.
Fe fydd dechrau’r ras yn ail-greu rhan o’r frwydr a barodd 141 o ddiwrnodau ac a ddaeth i ben ar 18 Tachwedd 1916.
Fe fydd dwy ‘fataliwn’ yn cystadlu yn erbyn ei gilydd – y Fiwsilwyr a’r Cyffinwyr – gan dderbyn cyfarwyddiadau yn union fel y byddai’r milwyr wedi eu derbyn cyn mynd i’r frwydr.
Bydd grwpiau o 40 o bobol yn ymgymryd â’r her ar y tro i gyfeiliant seindyrf o farics Maendy yng Nghaerdydd a chadetiaid Torfan yng Nghwmbrân.
Bydd y cwrs yn mynd â’r rhedwyr ar hyd glannau afon Wysg ac i mewn i’r bryniau cyfagos.
Bydd yr arian yn mynd at Apêl y Pabi yng Ngwent.