Kevin Roscoe
Mae Kevin Roscoe o Gaernarfon wedi’i ddedfrydu i ddeng mlynedd o garchar am droseddau rhyw yn Llys y Goron yr Wyddgrug.

Fe gafwyd y dyn 59 oed yn euog o gyflawni troseddau yn erbyn dioddefwr 14 oed ar ddechrau’r 2000au.

Fe fydd Kevin Roscoe yn cael ei roi ar gofrestr troseddau rhywiol yn barhaol yn dilyn chwe chyhuddiad yn ei erbyn yn cynnwys treisio ac o ymosod yn anweddus ar blentyn.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Chris Arkell ar ran tim ymchwiliad Amethyst: “Roedd yr ymchwiliad hwn yn bosib oherwydd dewrder y diodddefwr a thystion. Rydw i’n canmol eu dewrder. Fe wnaeth Kevin Roscoe dramgwyddo ffydd merch ifanc mewn oedolyn, gan adael creithiau oes. Dw i’n gobeithio y gall y canlyniad heddiw fynd beth o’r ffordd at wella’r dolur.”