Carl Sargeant
Heddiw, amlinellodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei nod uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol.

Wrth gyflwyno Datganiad Llafar i’r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y £1.3bn a glustnodwyd dros dymor y llywodraeth hon i gefnogi’r gwaith o ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy a chyflawni’r dasg o fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru yn dangos uchelgais y llywodraeth yn y maes hwn.

Mae’r cynlluniau i gyflawni’r nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys y canlynol:

  • Parhau i gefnogi gwaith adeiladu ar gyfer tai cymdeithasol i’r rhai hynny sydd fwya’ agored i niwed drwy gynlluniau dibynadwy sydd eisoes wedi’u profi, gan gynnwys y Grant Tai Cymdeithasol;
  • Cefnogi gwaith adeiladu ar gyfer mwy na 6,000 o gartrefi drwy’r cynllun Cymorth i Brynu. Bydd Cam II y cynllun yn sicrhau bod £290 miliwn yn cael eu buddsoddi tan 2021;
  • Datblygu rhaglen adeiladu tai fwy uchelgeisiol – sy’n uchelgeisiol o ran cynllun, ansawdd, lleoliad ac effeithlonrwydd ynni y cartrefi y byddwn yn eu darparu;
  • Cefnogi amrywiaeth o ddeiliadaethau ar gyfer tai, er mwyn ymateb i ystod eang o anghenion o ran tai.
  • Datblygu cynllun Rhentu i Brynu a fydd yn cefnogi’r rhai hynny sy’n dyheu am brynu cartref eu hunain, ond sy’n ei chael yn anodd i gynilo blaendal sylweddol;
  • Hybu sawl ffordd o allu perchen ar dŷ am gost fforddiadwy – yn enwedig ar gyfer pobol sy’n prynu am y tro cynta’ mewn ardaloedd lle maen nhw’n aml yn methu â phrynu cartre’ oherwydd bod prisiau’n uchel.
“Manteision pwysig”
“Mae adeiladu cartrefi yn sicrhau manteision pwysig sydd yn mynd yn gam ymhellach na dim ond rhoi to uwch pennau pob0l,” meddai Carl Sargent.  
“Ochr yn ochr â’r dystiolaeth helaeth fod tai o ansawdd da yn sicrhau manteision iechyd ac addysg i blant ac i deuluoedd, mae adeiladu cartrefi ar gyfer pob deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein heconomi a’n cymunedau.” 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn bwysig i gadw’r stoc o dai cymdeithasol presennol sydd ar gael, a bod y ddeddfwriaeth i ddiddymu’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael eisoes ar y gweill.

Dywedodd Carl Sargeant hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cadw ac yn cryfhau’r perthnasau cadarn â’r cymdeithasau tai, awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai preifat.