m
Mae adroddiad newydd wedi datgelu bod llai na hanner meddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru wedi derbyn hyfforddiant arbenigol ar iechyd meddwl.

Yn ôl elusen Mind, sydd wedi comisiynu’r adroddiad, fe fydd un o bob pedwar o bobol yn profi problem iechyd meddwl mewn un flwyddyn.  Allan o’r rhai sydd yn ceisio cymorth, mae 81% o bobol yn mynd i weld eu meddyg teulu yn gynta’.

Mae ffigyrau’r elusen yn dangos, ar gyfartaledd, bod llai na 45% o feddygon teulu sydd dan hyfforddiant yng Nghymru wedi cyflawni hyfforddiant mewn gwasanaeth iechyd meddwl.

Meddai’r elusen y dylai Llywodraeth Cymru, sydd eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth iechyd galwedigaethol ar gyfer meddygon teulu, hefyd ymestyn hyn i ddarparu cefnogaeth i bob aelod o staff gofal sylfaenol fel nyrsus.

Cyfrifoldeb

Mae’r elusen hefyd yn dweud bod gan Fyrddau Iechyd Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod y gwasanaethau y maen nhw’n ei gomisiynu yn bodloni anghenion eu cymunedau ac y dylai’r holl staff dderbyn y lefel briodol o hyfforddiant i gefnogi pobol â phroblemau iechyd meddwl – fel hyfforddiant atal hunanladdiad.

Dywedodd Chris Bryant, sy’n gweithio fel meddyg teulu yng Nghaerdydd: “Wrth symud ymlaen yn fy ngyrfa, dw i’n dod i sylweddoli bod iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles yn gysylltiedig. Wrth edrych yn ôl, mae’n ymddangos bod diffyg pwyslais ar iechyd meddwl wedi body n fy hyfforddiant.

“Wrth weithio fel meddyg teulu, mae gennyf cleifion newydd yn dod i mewn yn chwilio am gymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl yn ddyddiol. Yn aml, mae’n teimlo fel tasg amhosibl i helpu rhywun o fewn cyfyngiadau apwyntiadau deng munud.

“Nid oes gennyf hyfforddiant penodol mewn cwnsela ac eto, yn aml, teimlaf fod rhaid i mi ‘lenwi’r bwlch’ gan fod yna restr aros ar gyfer popeth ar wahân i fy ngweld i.”