Llun: Heddlu Gwent
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod plant sy’n dioddef niwed a thrais domestig yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd hirdymor.

Yn ôl yr ymchwil, mae plentyn sy’n dioddef pedwar neu’n fwy o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod (Adverse Childhood Experiences – ACE) ddwywaith yn fwy tebygol o gael diagnosis o glefyd cronig yn ystod eu bywyd.

Mae’r profiadau hyn yn amrywio o gam-drin llafar, meddyliol, corfforol neu fod mewn cyswllt ag alcoholiaeth neu drais yn y cartref.

Clefyd y siwgr, y galon ac anadlol…

Mae pobol sydd wedi dioddef o bedwar neu’n fwy o’r profiadau hyn bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y siwgr Math 2.

Maen nhw hefyd dair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y galon a chlefyd anadlol.

Ac mae’r adroddiad yn amlygu cysylltiad rhwng profiadau ACE ac ymweliadau cyson ag ysbytai a meddygon teulu.

‘Angen gweithredu’

“Gall yr hyn sydd yn digwydd i ni fel plant wneud i’n cyrff ddatblygu’n wahanol, a’u gwneud yn fwy agored i gyflyrau fel diabetes Math 2 a chlefyd y galon,” meddai’r Athro Mark Bellis, prif awdur yr adroddiad ac un o gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Am hynny mae’n galw am “weithredu effeithiol” i fynd i’r afael â phlant sy’n dioddef o’r profiadau hyn, er mwyn lleddfu’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

‘Canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar’

Yn ôl Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, mae’r adroddiad yn “pwysleisio pwysigrwydd canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar a lleihau nifer y plant sydd yn byw mewn teuluoedd lle mae cam-drin domestig, problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu fathau eraill o gam-drin neu esgeulustod.”

“Os na fyddwn yn mynd i’r afael â hyn byddwn yn cronni problemau iechyd a chymdeithasol hirdymor i’r plant hyn ac i’n gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.