Clwb Rygbi Cymry Llundain
Mae perchnogion Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi dweud wrth Farnwr yn y llys heddiw eu bod yn medru dechrau ad-dalu’r arian sy’n ddyledus ganddynt.

Roedd y clwb yn wynebu gwrandawiad wedi i swyddogion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi orchymyn fod y clwb yn cael ei ddiddymu oherwydd dyledion treth sylweddol.

Ddechrau mis Medi, llwyddodd y clwb i ddenu perchnogion newydd er mwyn ei atal rhag mynd i’r wal.

Dywedodd y Barnwr heddiw ei fod yn barod i adolygu’r achos eto ar Ragfyr 12 ar ôl clywed bod yr arian yn dechrau dod yn ôl.

Nid yw maint y dyledion wedi’u datgelu, ond dywedodd y Bargyfreithiwr oedd yn cynrychioli Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Maxim Cardew, fod gan y clwb mwy na £90,000 o ôl-ddyledion.

Cafodd y clwb ei ffurfio yn 1885, ond maen nhw wedi wynebu problemau ariannol yn y gorffennol gan gynnwys cyfnod gyda’r gweinyddwyr yn 2009.