Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru Llun: Plaid Cymru
Mae canlyniad Brexit, yn ôl Arweinydd Plaid Cymru, yn cryfhau’r achos i greu system gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Ac yn ôl Leanne Wood, os na fydd Mesur Cymru sy’n cael ei drafod ar hyn o bryd yn mynd i’r afael â hyn – bydd angen creu “bil newydd, ar wahân.”

“Mae perygl y byddwn yn troi’n endid ‘LloegraChymru’ gyda statws Cymru fel cenedl eilradd o fewn hynny’n cael ei gadarnhau,” meddai.

“Mae Bil Cymru sy’n pasio drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd yn gyfle i fynd i’r afael â’r perygl hwn. Bydd methiant i wneud hyn yn sbarduno’r angen am fil newydd, ar wahân.”

‘Deddfu ond dim awdurdodaeth’

“Cymru nawr yw’r unig wlad yn y byd gyda deddfwrfa ond dim awdurdodaeth ei hun,” ychwanegodd Leanne Wood gan ddweud fod angen gweinyddu cyfreithiau’r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.

“Do, pleidleisiodd pobol i adael, ond ni wnaethant bleidleisio i ganoli pwerau yn San Steffan,” meddai wedyn.

“Rhaid i Gymru gael ei grymuso i allu gwarchod buddiannau ein gwlad…

“Golyga hyn gael y gallu i wneud penderfyniadau sy’n gwasanaethu anghenion unigryw ein heconomi a’n cymunedau, yn hytrach na gadael i benderfyniadau sy’n effeithio Cymru gael eu gwneud gan y wlad drws nesaf.”

Dywedodd hefyd fod angen cynllunio isadeiledd cyfreithiol i ddelio ag unrhyw bwerau fydd yn dychwelyd o Frwsel i’r Cynulliad.