Ffordd yr A48 yn Sir Gaerfyrddin
Mae’r gwaith atgyweirio ar ffordd ddwyreiniol yr A48 yn Sir Gaerfyrddin wedi’i gwblhau a’r lôn wedi’i hailagor ar ôl bod ynghau am bron i chwe wythnos.

Daeth y gwaith i ben nos Sul (Hydref 30) am 10yh, a hynny ddeuddydd cyn y disgwyl.

Bu’n rhaid cau’r ffordd yn wreiddiol er mwyn atgyweirio’r bibell sy’n cludo tanwydd o burfa Valero ym Mhenfro i derfynellau ym Manceinion a Kingsbury.

Ond bu’n rhaid cau’r ffordd orllewinol wedi hynny wrth iddi ddod i’r amlwg fod 140,000 litr o gerosin wedi’i ollwng ac wedi llifo i Nant Pibwr ger Nant-y-caws gan ladd nifer o bysgod.

“Mae cwblhau’r gwaith angenrheidiol ar yr A48 ac ailagor y ffordd ddeuol ddwyreiniol yn rhyddhad i fodurwyr a phobol yn byw yn lleol ar lwybr y gwyriad sydd wedi dioddef wythnosau o amharu ac anghyfleustra,” meddai un o Brif Arolygwyr Heddlu Dyfed Powys, Peter Roderick.

“Rydym yn ddiolchgar i’r cyhoedd am eu hamynedd yn ystod y cyfnod hwn.”