Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod wedi gorfod delio â phump achos yr wythnos hon o bobol yn llyncu’r cyffur heroin, a bod tri o bobol wedi marw o ganlyniad.

Fe ddigwyddodd pob un o’r achosion rhwng Hydref 23 a Hydref 28, yn ardaloedd Caerffili, Casnewydd a Blaenau Gwent.

“Dyw hi ddim yn glir os oes cysylltiad rhwng y digwyddiadau hyn,” meddai llefarydd ar ran y llu, “ond fodd bynnag, allwn ni ddim anwybyddu’r ffaith ei bod hi’n bosib iawn fod y marwolaethau yn gysylltiedig â’r un cnwd o heroin.

“Mae defnyddio herion yn anghyfreithlon, wrth gwrs, ond rydyn ni yn annog unrhyw un sy’n defnyddio’r cyffur i fod yn ofnadwy o ofalus ac ar eu gwyliadwraeth. Os ydyn nhw’n profi unrhyw symptomau anghyffredin ar ôl cymryd y cyffur, fe ddylen nhw fynd i weld meddyg yn syth.”