Jevon Thomas (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am gymorth er mwyn dod o hyd i fachgen 16 oed o Saundersfoot, Sir Benfro, sydd wedi bod ar goll ers dydd Mercher.

Does neb wedi gweld Jevon Thomas ers pnawn dydd Mercher diwetha’, Hydref 26.

Mae wedi’i ddisgrifio fel bachgen croenwyn, tua chwe throedfedd tair modfedd o daldra, gyda gwallt melyn pigog. Mae’n gwisgo sbectol, ac mae ganddo ddau glustlws yn ei ddwy glust.