Mae Heddlu Gogledd Cymru yn credu i ddyn a fu farw yn Y Rhyl nos Iau, wedi’i drywanu.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r dyn lleol, Mark Roy Mason, 48 oed, mewn maes parcio yn Marsh Road yn y dre’, ac fe gafodd yr heddlu eu galw am 7.24yh.

Er i barafeddygon ddechrau trin y dyn yn y fan a’r lle, bu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Y gred yw bod fan Renault Kangoo wen wedi mynd i mewn i’r maes parcio ac yna bod cerbyd 4×4 du wedi’i dilyn.

Cafodd troseddwyr eu gweld yn dod allan o’r cerbyn du ac ymosod ar deithiwr yn y Renault cyn gyrru i ffwrdd.

“Roedd hwn yn ddigwyddiad ofnadwy lle collodd dyn ei fywyd.  Rwy’n apelio ar unrhyw dystion, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth fyddai’n ein helpu ni gyda’r ymchwiliad i gysylltu â’r Heddlu yn syth drwy ffonio 101,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Jason Devonport.

Mae modd hefyd ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod U163736.