Dafydd Elis-Thomas - ei benderfyniad yn cael ei drafod heno (Llun Plaid Cymru)
Fe fydd pwyllgor Plaid Cymru yn etholaeth Dwyfor-Meirionnydd yn cyfarfod heno i drafod y ffordd ymlaen yn dilyn ymadawiad Dafydd Elis-Thomas o’r blaid.

Bydd y pwyllgor yn cwrdd yng Nghanolfan Celfyddydau Porthmadog am saith yr hwyr i benderfynu ar eu camau nesa’ ar ôl i’r Aelod Cynulliad gyhoeddi ei fod yn gadael y blaid i fod yn AC annibynnol.

Mae Plaid Cymru’n ganolog eisoes wedi galw am gynnal is-etholiad.

Cadw’n dawel

Dywedodd Dyfrig Siencyn, cadeirydd pwyllgor yr etholaeth, mai “trafod y ffordd ymlaen” fydd prif bwnc agenda’r noson ond doedd e ddim yn fodlon dweud rhagor ymlaen llaw.

Does dim gorfodaeth gyfansoddiadol ar Dafydd Elis-Thomas i ymddiswyddo ac achosi isetholiad, er mai dim ond pum mis sydd yna ers yr etholiadau.

Roedd cyfarfod arbennig o blaid yr etholaeth wedi ei gynnal cyn yr etholiad pan oedd Plaid Cymru’n ganolog wedi gofyn i’r blaid leol wrthod cefnogi’r cyn-arweinydd a oedd wedi bod yn ddraenen yn ystlys arweinyddiaeth Plaid Cymru ers blynyddoedd.

Wrth siarad â Golwg yng nghynhadledd Plaid Cymru’r wythnos ddiwethaf, dywedodd Dyfrig Siencyn nad oedd yn rhagweld y bydd yr etholaeth yn dewis ymgeisydd i ymladd isetholiad posib yn y cyfarfod.