Trigolion Creigiau yn dangos eu gwrthwynebiad i gynlluniau Tarmac i ail-agor ac ehangu chwarel Creigiau: Llun: Stop Creigiau Quarry
Mae Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau i ail-agor ac ymestyn chwarel yng Nghreigiau er gwaethaf cryn dipyn o wrthwynebiad.

Mae safle’r chwarel rhwng Creigiau a Phentyrch ar gyrion y brifddinas.

Yn dilyn ymweliad â’r safle yr wythnos diwethaf, cafodd cynghorwyr gyfle arall i weld y cynlluniau, gan gynnwys map o’r ardal ac effaith ehangu’r chwarel ar y gymuned, yn ystod cyfarfod y prynhawn yma.

Traffig

Roedd pryderon y byddai nifer fawr o lorïau ar y safle’n debygol o achosi cryn dagfeydd yn yr ardal, ond fe ddywedodd y datblygwyr, Tarmac y byddan nhw’n gwario degau o filoedd o bunnoedd i adeiladu safleoedd ar ymyl y ffordd fel na fyddai’n rhaid i lorïau ymuno â thraffig arall yr ardal.

Ond mynegodd y Cynghorydd Graham Thomas, y cynghorydd tros ardal Creigiau, nad oedd effaith adeiladu safleoedd pasio wedi cael ei ystyried yn llawn.

Dywedodd un o swyddogion y cyngor wrth y cyfarfod y byddai asesiad effaith ar draffig yn cael ei gwblhau wrth i’r datblygiad fynd yn ei flaen.

‘Perygl i iechyd’

Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, cynghorau cymunedol a chynghorwyr unigol hefyd wedi mynegi pryder am ddiffyg asesiad o’r perygl i iechyd y cyhoedd yn sgil y datblygiad.

Ond dywedodd swyddog cyfreithiol y cyngor nad oedd asesiad o’r fath yn ofynnol ar gyfer y datblygiad hwn.

Dywedodd y Swyddog Datblygu wrth y cyngor nad oedd “rheswm rhesymol” am wrthod y cais.