Munud o dawelwch i gofio hanner canrif Aberfan

 


Heddiw, fe fydd munud o dawelwch cenedlaethol yn cael ei gynnal yng Nghymru i gofio am drychineb Aberfan, pan gafodd 144 o bobol, gan gynnwys 116 o blant, eu lladd.

Bydd hi’n union 50 mlynedd ers i domen o lo lithro i lawr llethrau’r bryniau uwchlaw’r pentref gan gladdu’r ysgol gynradd leol ac ugain o dai a ffermdy.

Caiff y munud o dawelwch ei gynnal am 9.15 y bore, yr union amser pryd ddigwyddodd y trychineb yn 1966.

Ar ddiwrnod y cofio, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gosod torch ar ran y genedl ac yn cyfarfod y sawl wnaeth oroesi’r trychineb, ynghyd â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau.

“Byth yn anghofio”

“Fyddwn ni fyth yn anghofio’r dynion, y menywod a’r plant ysgol a gollodd eu bywydau mor drasig yn nhrychineb Aberfan 50 mlynedd yn ôl,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’n bwysig cofio fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall beth ddigwyddodd yn Aberfan. Mae’n adeg wirioneddol dorcalonnus yn ein hanes ac ni all unrhyw un sy’n dysgu am y trychineb beidio â chael eu gwir gyffwrdd gan y digwyddiad.

“Hanner canrif wedi’r trychineb, dw i’n gobeithio y bydd y genedl gyfan yn dod at ei gilydd, gan ddangos parch a thosturi, i oedi am funud am 9.15am yfory a meddwl am gymuned Aberfan.”

Yn y Senedd ddydd Mercher, fe wnaeth Aelodau Cynulliad gynnal munud o dawelwch yn y Siambr, gydag arweinwyr y pleidiau yn talu teyrnged i bobol Aberfan yn eu tro.

Dywedodd un o’r goroeswyr Jeff Edwards bod digwyddiadau’r diwrnod hwnnw wedi aros gydag ef a’i cyd-ddisgyblion trwy gydol eu hoes.

Am ddwy awr, roedd Jeff, oedd yn wyth oed ar y pryd, yn sownd o dan y glo drws nesa i ferch farw o’r un dosbarth ag o oedd a’i wyneb yn ei wynebu o.

Mae Jeff yn dweud ei fod yn parhau i gael hunllefau a’i fod yn “dioddef pyliau dwfn o iselder”.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019