Nadine Aburas
Mae rheithgor wedi clywed bod dyn busnes “cenfigennus a pheryglus” o’r Unol Daleithiau wedi lofruddio ei gyn gariad mewn gwesty yng Nghaerdydd cyn ffoi i Affrica.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Sammy Almahri wedi tagu Nadine Aburas, 28, yng ngwesty’r Future Inn ym Mae Caerdydd cyn gosod arwydd ar ddrws yr ystafell yn gofyn i staff beidio â tharfu arni.

Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr erlyniad, Roger Thomas QC, bod Sammy Almahri o Efrog Newydd yna wedi gyrru car Nadine Aburas i Faes Awyr Heathrow cyn dal awyren i Qatar ac yna teithio i Tanzania.

Mae’r llys wedi cael gwybod bod y diffynnydd yn cyfaddef lladd Nadine Aburas, ond ei fod yn honni ei fod wedi gwneud hynny ar ôl clywed “llais Duw yn dweud wrtho am ei lladd”.

Blacmelio

Mae’r erlyniad yn gwrthod yr honiad ac yn dadlau bod y diffynnydd wedi ceisio blacmelio Nadine Aburas yn flaenorol drwy fygwth postio lluniau noeth ohoni ar-lein.

Clywodd y llys fod gan Sammy Almahri luniau bronnoeth o Nadine Aburas, a allai fod wedi cael eu cymryd “yn groes i’w dymuniad”, yn ystod sgwrs ar wefan Skype.

Dywedodd yr erlyniad bod y bygythiad yna, ynghyd â nifer o negeseuon difrïol eraill, yn dangos bod Almahri yn dechrau ymddwyn mewn “ffordd genfigennus, meddiannol ac yn gynyddol fygythiol”.

Cyrhaeddodd Sammy Almahri Gaerdydd ar Rhagfyr 27 2015. Yn y dyddiau cyn y llofruddiaeth honedig, clywodd y rheithgor fod Sammy Almahri wedi bod yn ymladd â brodyr Nadine Aburas, Ayman a Jamal.

Y noson dan sylw…

Yn ôl lluniau camerâu diogelwch a gymerwyd ar 30 Rhagfyr, cyrhaeddodd Nadine Aburas westy’r Future Inn ble’r oedd Sammy Almahri yn aros.

Am tua hanner nos, gadawodd Sammy Almahri Ystafell 203 a gofyn i staff y gwesty lle allai ddod o hyd i dwll yn y wal cyn mynd i gasino’r Grosvenor. Ar ôl cyrraedd yn ôl yn y gwesty yn 12.35yb, yfodd ddwy botel o lager.

Tair awr yn ddiweddarach, gadawodd Almahri y Future Inn eto gan ofyn am gyfarwyddiadau i draffordd yr M4 a dweud wrth staff ei fod wedi gosod yn arwydd peidiwch â tharfu ar ddrws yr ystafell oherwydd bod ei chwaer yn cysgu.

Cyrhaeddodd Almahri Faes Awyr Heathrow am 7.05yb, rhyw bum awr cyn i gorff Nadine Aburas gael ei ganfod yn yr ystafell wely. Dywedodd yr erlyniad ei bod yn ymddangos bod ei chorff wedi cael ei olchi a’i lanhau.

Clywodd y llys bod gwarant arestio ryngwladol wedi’i chyhoeddi gan Interpol yn ddiweddarach, a chafodd Sammy Almahri ei arestio gan heddlu lleol yn Tanzania cyn cael ei ddwyn yn ôl i’r Deyrnas Unedig ar Fawrth 26.

Mae Sammy Almahri yn gwadu llofruddiaeth, ac mae’r achos yn parhau.