Mae David Davies, Aelod Seneddol y Ceidwadwyr tros etholaeth Mynwy, wedi cael ei feirniadu am iddo awgrymu y dylid profi dannedd plant ffoaduriaid sy’n cael eu derbyn i wledydd Prydain er mwyn gwneud yn siwr eu bod o dan 18 oed.

Yn ôl Cymdeithas Ddeintyddol Prydain, mae’r awgrym yn “amhriodol ac anfoesol”, ac maen nhw’n dweud nad yw’r fath brofion yn gallu profi unwaith ac am byth fod unigolyn yn 18 oed.

Yn ôl Davies, cadeirydd Pwyllgor Dethol Materion Cymreig San Steffan, byddai’r profion gorfodol yn cynnig sicrwydd i’r cyhoedd nad yw’r drefn yn cael ei hecsbloetio.

Daeth sylwadau Davies ar ôl i 14 o blant yn eu harddegau gyrraedd Calais ddydd Llun, ond fe awgrymodd nad ydyn nhw’n edrych fel plant.

“Gobeithio nad yw lletygarwch Prydain yn cael ei ecsbloetio,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Ddeintyddol Prydain: “Nid yn unig y mae’n ddull anghywir o asesu oedran ond mae hefyd yn amhriodol ac yn anfoesol tynnu lluniau radiograff o bobol pan nad oes budd i’w hiechyd.

“Does dim hawl defnyddio pelydr-X sy’n cael ei dynnu am reswm clinigol at unrhyw ddiben arall heb ganiatâd deallusol y claf, heb anogaeth ac yng ngwydd llawn [yr unigolyn] ynghylch sut y mae’r radiograff yn cael ei ddefnyddio a gan bwy.”

‘Y Jyngl’

Yn y cyfamser, fe allai gwersyll i ffoaduriaid yn Calais, sy’n cael ei adnabod fel y Jyngl, gau ar unwaith ar ôl i lys yn Ffrainc wrthod apêl gan grwpiau dyngarol i oedi cyn ei wacáu.

Mae disgwyl i’r clirio ddigwydd dros yr wythnosau nesaf, a’i ddymchwel erbyn dechrau’r gaea’.

Mae grwpiau dyngarol yn dadlau y gallai’r ffoaduriaid ymgartrefu mewn gwahanol ardaloedd pe baen nhw’n cael eu symud oddi yno.

Mae llywodraeth Ffrainc wedi croesawu penderfyniad y llys.