Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad ar yr M4 ger Casnewydd y bore ma.

Cafodd Heddlu’r De eu galw i’r digwyddiad ar y draffordd ger Twneli Brynglas am 8.20yb ddydd Mawrth, 18 Hydref yn dilyn pryderon am ddiogelwch unigolyn.

Cafodd y dyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Bu’r draffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad wrth i’r heddlu ddelio a’r digwyddiad ond mae bellach wedi ail-agor.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.