Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae angen mwy o gydweithio a chyfathrebu rhwng sefydliadau i wella diogelwch cymunedol, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae’r arolwg Diogelwch Cymunedol yng Nghymru hefyd yn datgelu mai cymysg yw barn dinasyddion Cymru ynghylch pa mor ddiogel y maent yn teimlo yn eu cymunedau gyda 36.6% o’r rhai gafodd eu holi fel rhan o’r arolwg yn credu bod lefelau troseddu wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd yr adroddiad, yn edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i wella diogelwch cymunedol.

Mae diogelwch cymunedol yn ymwneud a pha mor ddiogel mae pobl yn teimlo mewn perthynas â lle maen nhw’n byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden. Yn ôl yr adroddiad, mae’r teimlad o ddiogelwch cymunedol “yn gwneud y gwahaniaeth rhwng pobl sydd am fyw ac aros yn eu cymdogaeth neu beidio.”

Casgliadau
Mae’r adroddiad wedi dod at bedwar prif gasgliad sef:

–          Bod cyfrifoldeb sy’n gorgyffwrdd ynghyd ag arweinyddiaeth anghyson yn atal partneriaid rhag cydweithio’n effeithiol;

–          Mae cynllunio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol yn ddigyswllt a heb ei gyd-drefnu er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn canolbwyntio ar y materion pwysicaf;

–          Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith diogelwch cymunedol yn tyfu ond mae’r gwelliannau hyn yn cael eu gwrthbwyso gan doriadau yng ngrantiau’r Swyddfa Gartref a gostyngiadau gwirioneddol yng nghyllidebau heddluoedd ac awdurdodau lleol; ac

–          Mae’n anodd mesur effaith cyrff cyhoeddus gwahanol o ran ymdrin â diogelwch cymunedol.

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys canfyddiadau arolwg cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru, sy’n tynnu sylw at brinder cysylltu effeithiol rhwng cyrff cyhoeddus a dinasyddion a chymunedau lleol wrth benderfynu ar flaenoriaethau.

Er bod yr adroddiad yn amlygu pedair ar ddeg o astudiaethau achos arfer da o bob rhan o Gymru, mae’n dweud bod llawer o waith eto i’w wneud gan gyrff cyhoeddus i wella diogelwch cymunedol.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn gwneud saith argymhelliad sy’n canolbwyntio ar wella cynllunio strategol, gweithio mewn partneriaeth a chyllido diogelwch cymunedol yn ogystal â chyfathrebu’n well gyda’r cyhoedd.

Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae ein hadroddiad diweddaraf yn ystyried gwaith a pherfformiad y cyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol yng Nghymru – Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd ac awdurdodau lleol.

“Mae ein hadolygiad yn rhoi dadansoddiad manwl o arferion presennol ac mae’n tynnu sylw at amryw o wendidau yn y trefniadau ar hyn o bryd. O ystyried mor bwysig yw diogelwch cymunedol i ddinasyddion a chymunedau, mae’n bwysig i gyrff cyhoeddus wella’r ffordd y maent yn cydweithio er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel ac mae’r argymhellion yr wyf wedi eu gwneud yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau allweddol yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”

Diogelwch cymunedol yn flaenoriaeth

Dywedodd Nick Ramsay AC, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol: “Roedd diogelwch cymunedol yn flaenoriaeth allweddol yn y rhaglen lywodraethu ddiwethaf, ac mae’n parhau’n fater pwysig i ddinasyddion.

“Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnig beirniadaeth fanwl o’r ffordd y mae’r sefydliadau hynny sydd â chyfrifoldeb dros ddiogelwch cymunedol – yn genedlaethol yn y DU ac yng Nghymru – yn gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd ac yn defnyddio adnoddau i sicrhau gwelliannau.

“Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at rai gwendidau sylweddol yn y trefniadau presennol ac mae’r argymhellion yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â rhai o’r materion difrifol o bryder y mae angen i’r gwahanol gyrff sy’n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol yng Nghymru ymdrin â nhw.”