Ty'r Cyffredin yn San Steffan Llun: PA
Mae Senedd y Deyrnas Unedig wedi lansio ‘Y Gornel Gymraeg’ heddiw, sef rhan o’i gwefan wedi’i neilltuo ar gyfer Cymru a’r Gymraeg.

Mae’r adran yn dod â holl wasanaethau Cymraeg Senedd y Deyrnas Unedig ynghyd gan gynnwys manylion cyswllt e-bost a phost Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd modd hefyd dod o hyd i gyhoeddiadau Cymraeg gan Aelodau’r Senedd, gweithdai cymunedol sy’n dangos sut mae Senedd y DU yn gweithredu a sut mae’r penderfyniadau yn effeithio ar Gymru.

Mae modd ymweld â thudalennau gwe y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig o’r adran hon hefyd.

‘Adnodd gwych’

Mae Aelodau Seneddol wedi croesawu’r adran newydd, gan gynnwys Susan Elan Jones, AS Llafur De Clwyd.

“Rwyf wrth fy modd fod Senedd y DU wedi cyflwyno’r fenter newydd hon. Mae’n adnodd gwych i siaradwyr Cymraeg o Gymru a ledled y DU,” meddai.

Ychwanegodd Christina Rees, AS Llafur (Co-op) Castell-Nedd, “fel nifer o bobol eraill sydd am ddysgu Cymraeg ac ailgysylltu gyda chyfoeth ein diwylliant, rwyf wrth fy modd fod Senedd y DU yn creu’r adnodd yma i gefnogi’r nifer o siaradwyr Cymraeg, gan ehangu eu hymrwymiad i ddemocratiaeth.”

Mae modd ymweld â’r Gornel Gymraeg yma.