Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd y gallai llifogydd effeithio ar ardaloedd ar hyd afon Gwy ddydd Sul a bore Llun.

Mae disgwyl trafferthion ar y ffyrdd, ac fe allai cartrefi gael eu heffeithio hefyd.

Fe allai’r ffordd yn Nhyndyrn fod ynghau drwy gydol y ddau ddiwrnod gyda lefelau’r afon yn codi’n sylweddol.

Mae pobol wedi cael rhybudd i sicrhau bod eu gatiau sy’n eu gwarchod rhag llifogydd yn eu lle.

Ond fe ddywedodd un o reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru mewn datganiad fod y perygl i ardaloedd eraill yng Nghymru’n “gymharol isel”.

Ychwanegodd y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru’n cadw llygad ar y sefyllfa gan gefnogi pobol leol.