Cafodd dynes ei hachub o’r dŵr ym Mhenarth nos Sadwrn ar ôl iddi fynd i drafferthion.

Mae adroddiadau’n awgrymu iddi neidio i mewn i’r cei yn y dref toc cyn 10 o’r gloch.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd iddi ym Mae Caerdydd ar ôl iddi fod yn y dŵr am 25 munud.

Cafodd hi ei hachub gan hofrennydd Heddlu’r De, Gwasanaeth Tân ac Achub y De a Gwylwyr y Glannau.

Cafodd hi ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond doedd hi ddim wedi cael anafiadau difrifol.