Mae canolfan newydd i hybu’r Gymraeg – Popdy – yn cael ei hagor yn swyddogol yn ninas Bangor heddiw.

Bydd Alun Davies, Gweinidog Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am yr iaith, yn dadorchuddio plac heddiw i nodi’r agoriad a bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yfory ar ddiwrnod ‘Shwmae Su’mae’.

Nod y ganolfan yw rhoi cyfleoedd i drigolion, busnesau a myfyrwyr lleol ddefnyddio’r  Gymraeg. Bydd gan Fenter Iaith Bangor a staff Urdd Gobaith Cymru swyddfeydd yn Popdy. Mae Dylan Bryn Roberts wedi ei benodi yn Rheolwr a Swyddog Datblygu Menter Iaith Bangor er mwyn datblygu’r ganolfan.

Cafodd Menter Iaith Bangor ar y cyd â Hunaniaith, sef Menter Iaith Cyngor Gwynedd, , grant o £300,000 gan Lywodraeth Cymru i sefydlu’r Ganolfan Iaith ar safle hen glinig yn Ffordd Sackville.

Dywedodd Menna Baines, cadeirydd Menter Iaith Bangor, ar y pryd ei bod yn gobeithio y bydd “dylanwad y Ganolfan yn treiddio ymhell y tu hwnt i waliau’r adeilad ei hun ac yn ymestyn i bob rhan o fywyd cymunedol Bangor gan wneud gwahaniaeth o ddifri i ragolygon yr iaith yn y ddinas”.

Dangosodd Cyfrifiad 2011 fod canran trigolion Bangor sy’n medru’r Gymraeg wedi syrthio o 46.7% i 36.4% rhwng 2001 a 2011.

Dewi Llwyd a Kariad y Clown

Yfory bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yn Popdy i gyd-fynd â Diwrnod ‘Shwmae Su’mae’  sy’n annog pobl i roi tro ar ddefnyddio’r Gymraeg.

Bydd Dewi Llwyd Pawb a’i Farn yn holi Dafydd Hardy y gwerthwr tai a Siân Gwenllïan yr AC lleol.

Hefyd bydd sioe hud gan Kariad y Clown a sesiwn iwcalilis gydag Alun Tan Lan.