Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dechrau ymchwiliad i weld faint o gymorth sydd ar gael i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau hefyd yn ystyried sut mae Cymru’n ymateb i argyfwng ffoaduriaid Syria hefyd.

Bydd yr ymchwiliad yn chwilio i gyflymder ac effeithiolrwydd Llywodraeth Cymru i adleoli ffoaduriaid, y cymorth sydd ar gael i blant ar eu pen eu hunain a rôl y Llywodraeth i integreiddio ffoaduriaid yng Nghymru.

122 o ffoaduriaid o Syria

Ers mis Hydref 2015, mae 122 o ffoaduriaid o Syria wedi cael eu hadleoli yng Nghymru ers mis Hydref 2015, o gymharu ag 862 yn yr Alban.

Mae 2,872 o geiswyr lloches yng Nghymru  ar hyn o bryd, yn bennaf yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Wrecsam.

Mae’r union faint o ffoaduriaid sydd yng Nghymru yn annelwig am fod gan rywun sydd â statws ffoadur yr hawl i symud i fan arall.

Mae’r Pwyllgor am glywed gan bobol gyffredin i’w helpu i lunio ei gasgliadau a’i argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Er nad yw pwerau o ran lloches a mewnfudo wedi’u datganoli, mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid o ran tai, mynediad at iechyd ac addysg a dod o hyd i waith.

Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn clywed tystiolaeth gan sefydliadau ac arbenigwyr perthnasol ond mae clywed am brofiadau personol yn rhan o’r nod hefyd.

“Angen cymorth effeithlon”

“Mae’r lluniau a’r straeon am bobl yn ffoi rhag rhyfel ac erledigaeth yn Syria, Irac a gwledydd eraill yn frawychus,” meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Mae llawer ohonyn nhw’n mentro ar daith beryglus i groesi Môr y Canoldir mewn cychod bach, gorlawn, ac mae niferoedd dirifedi o bobl, llawer ohonyn nhw’n blant, yn marw cyn cyrraedd y lan.

“Mae angen cymorth effeithlon a mynediad at wasanaethau hanfodol ar y bobl hyn fel y gallan nhw ymgartrefu’n gyflym a dechrau byw o’r newydd.

“Byddwn ni’n edrych ar y gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddyn nhw, pa mor hawdd yw cael gafael arnynt a beth arall y gellir ei wneud.

“Rwy’n gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad o’r materion hyn roi ei safbwyntiau a’i syniadau i ni er mwyn helpu i lywio ein canfyddiadau.”

Gall unrhyw un sydd am gyfrannu at ymchwiliad y Pwyllgor naill ai e-bostio SeneddCommunities@cynulliad.cymru, neu ysgrifennu at Glerc y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.

Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw Tachwedd 23, 2016.