Mae Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn grant gan Lywodraeth Iwerddon i gefnogi gwaith dysgu iaith a llenyddiaeth y Wyddeleg.

Mae Adran o fewn Llywodraeth Iwerddon sy’n gyfrifol am y Gaeltacht wedi neilltuo arian i Brifysgol Aberystwyth dros gyfnod o dair blynedd i ddysgu’r Wyddeleg.

Dywedodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Cathryn Charnell-White, “Rydym wrth ein bodd bod y grant hwn yn golygu y gallwn sefydlu cynllun ysgoloriaethau a fydd yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o’r iaith Wyddeleg yn ei bro, ac i ddod â’r profiad hwnnw yn ôl i Aberystwyth.”

Mae Academyddion yn Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn y gorffennol wedi cynhyrchu cyhoeddiadau yn cynnwys cyfrol gan J. E. Caerwyn Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon a gyhoeddwyd yn y Wyddeleg, y Gymraeg a’r Saesneg.

Ychwanegodd Peadar Ó Muircheartaigh, Darlithydd mewn Astudiaethau Celtaidd, “Mae’r grant hwn yn cydnabod y safon uchel a’r gwaith caled yn Aberystwyth wrth astudio a dysgu iaith a llenyddiaeth y Wyddeleg dros y blynyddoedd.

“Mae ein harbenigedd ni a lleoliad eithriadol y Brifysgol yn ei gwneud yn ddewis gwych ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd. “