Mae un dyn wedi cael ei achub yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ golchi yng Nghaerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Dumballs y brifddinas ar ôl i’r bwyler yn yr adeilad ffrwydro.

Cafodd un dyn anafiadau ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl.

Fe fu cryn oedi i deithwyr yn yr ardal ers y digwyddiad, ac mae’r gwasanaeth tân yn dal ar y safle.

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod.