Mae mam o Dalgarreg, Ceredigion wedi ei hethol yn gadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Fe gafodd Heledd Gwyndaf ei geni ym Mangor a threuliodd gyfnod ym Mhen Llŷn hefyd. Wedi cyfnodau yn gweithio ym maes darlledu, cyfathrebu ac addysg, mae hi bellach yn byw ar fferm odro yn Nhalgarreg gyda’i gwr Hywel a thri o blant.

“Mae’n fraint ar y naw bod yn Gadeirydd ar fudiad mor allweddol â Chymdeithas yr Iaith, mudiad sy’n cynnig gobaith i’r Gymraeg,” meddai Heledd Gwyndaf.

“Dechreuais i ymwneud mwy mwy â’r Gymdeithas wedi i mi dderbyn llythyr personol wrth un o hoelion wyth y mudiad, Ffred Ffransis, tra yn y Brifysgol ym Mangor.

“Mae’r mudiad wedi sicrhau, gan gydweithio ag eraill, nifer o fuddugoliaethau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, gan gynnwys cryfhau statws y Gymraeg yn y Bil Cynllunio, atal toriadau pellach i S4C ynghyd â sicrhau bod pob disgybl yn astudio ar gyfer yr un cymhwyster Cymraeg.

“Rwy’n gobeithio adeiladu ar y llwyddiannau hynny. Mae tîm arbennig o swyddogion gwirfoddol a chyflogedig yn y Gymdeithas, ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymgyrchu gyda nhw. Rwy’n awyddus i weld pwyslais pellach yn cael ei roi ar gryfhau’r mudiad ar lawr gwlad ac yn edrych ymlaen at yr her.”