Fe fydd canolfan arbenigol i gleifion canser yn agor yn nhref Caerfyrddin heddiw gyda’r bwriad o ddarparu cymorth i bobol, a’u teuluoedd, sy’n dioddef o’r clefyd.

Ar gost o £500,000, mae’r Ganolfan Gwybodaeth Canser a’r Ganolfan Gefnogaeth wedi eu lleoli yn Ysbyty Glangwili.

Mae ystadegau’n dangos bod tua 7,500 o bobol Sir Gaerfyrddin yn dioddef o ganser a tua 1,300 yn cael diagnosis o’r clefyd yn flynyddol, yn ôl Yvonne Lush, rheolwraig Partneriaeth Strategol Macmillan yng Nghymru.

Ychwanegodd: “Ein gweledigaeth ni yw bod pawb sy’n cael eu heffeithio gan ganser, y cleifion a’r rhai sy’n agos iddynt, yn cael y modd o gael y wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ei angen – a hynny bod o’n ddiagnosis, yn driniaeth, neu yn ôl-driniaeth er mwyn iddynt ymdopi â’r effeithiau emosiynol neu ymarferol mae canser yn gallu ei gael.”

Mae’r buddsoddiad yn rhan o gynllun gwerth £3.3 miliwn gan elusen ganser Macmillan yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda dros gyfnod o bum mlynedd.