Cyngor Wrecsam
Mae Cyngor Wrecsam bellach wedi cymeradwyo strategaeth iaith bum mlynedd sy’n cyd-fynd â Safonau Iaith Comisiynydd y Gymraeg.

 

Daw hyn yn dilyn cyfarfod heddiw, lle dywedodd y Cynghorwyr y byddent am weld y strategaeth iaith yn cynorthwyo i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y sir o fewn y bum mlynedd nesaf.

Yn ôl y cyngor, roedd 14.6% (18,102) o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001, ond fe ostyngodd y ffigwr i 12.9% (16,659) o’r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2011.

Mae’r Cyngor yn awyddus i weld y ffigwr yn cynyddu i’r lefel yr oedd yn 2001 erbyn yr amser y bydd Cyfrifiad 2021 yn cael ei gynnal.

Am hynny, mae’r strategaeth sydd wedi’i gymeradwyo heddiw yn cynnwys targedau presennol o ran addysg cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd a gweithgareddau sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc i siarad Cymraeg yn gymdeithasol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi neilltuo £250,000 ychwanegol tuag at y costau a ragwelir i gwrdd â’r safonau.