Clownio (Llun: Wikipedia)
Mae arbenigwr ffilmiau arswyd o Langefni yn dweud fod pobol wedi gorymateb i’r arfer diweddar o bobol yn gwisgo masgiau clown er mwyn codi ofn ar bobol eraill.

Yn ôl Sion Griffiths, sydd newydd gyflwyno ei ddoethuriaeth ar ffilm i Brifysgol Bangor, does yna ddim modd deall yn iawn y trend hwn heb fod yn gwybod hefyd am ddiwylliant gemau fideo a ffilmiau.

Ar wefannau cymdeithasol, mae pobol wedi bod yn ymateb yn chwyrn, gan feirniadu’r rheiny sy’n gwisgo i fyny a chael hwyl yn ‘ymddangos’ allan o nunlle unwaith y bydd hi wedi tywyllu. Mae pobol eraill wedi bygwth rhoi cweir i glowniaid a allai ddychryn a rhoi hunllefau i blant.

“Rydan ni’n byw mewn oes lle mae pobol jyst isio cael hwyl,” meddai Sion Griffiths. “Dw i ddim yn nabod neb sy’n gwisgo i fyny fel clown, ond mae o i fyny iddyn nhw sut maen nhw’n treulio eu hamser, dydi?”

Rhybudd gan yr heddlu

Mae Heddlu De Cymru wedi rhybuddio pobol am berygl y chwiw ddiweddaraf o wisgo i fyny fel clown er mwyn codi ofn. Fe fydd yna “oblygiadau” os bydd unrhywun yn cael eu dal yn gwneud y fath beth.

Fe fu llu o achosion ledled gwledydd Prydain dros yr wythnosau diwethaf, a nifer o adroddiadau yn ardal de Cymru dros y dyddiau diwethaf, meddai’r heddlu.