Mae Aelod Cynulliad yn mynnu bod bwriad i godi 366 o dai newydd ym Mhenrhosgarnedd, Bangor yn gynllun “llawer rhy fawr i’r ardal”.

Mae angen codi tai ar gyfer pobol leol, yn ôl Sian Gwenllian, ond fe fydd hi’n dadlau bod “angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol”.

Fe fydd yr AC tros Arfon, Cynghorydd Sir yr ardal, Gareth Roberts, ac Aelod Seneddol Arfon Hywel Wiliams yn cynnal trafodaeth i glywed barn pobol ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig ym Mhen y Ffridd ger Ysbyty Gwynedd yr wythnos nesaf.

Dyma’r datblygiad tai arfaethedig mwyaf yn hanes Cyngor Gwynedd.

‘Gwegian’ 

“Mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn gwegian, mae ein hysgolion yn llawn, mae sicrhau apwyntiadau gyda meddygfeydd yn anodd, mae nifer y cerbydau sydd eisoes ar ein lonydd yn broblemus, a thydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod nifer y tai a gynigir o fewn y cynllun yn gymesur â’r ardal,” esbonia’r Cynghorydd Gareth Roberts.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal nos Iau, 20 Hydref yng Nghapel Berea Newydd, Bangor am 6.30pm.

“Yn anffodus, dwi’n bryderus bod y datblygiad hwn yn llawer rhy fawr i’r ardal,” meddai Sian Gwenllian.