Mae rhai o’r unigolion blaenllaw a gymerodd ran yn rali Cymdeithas yr Iaith yn Llangefni ddydd Sadwrn wedi bod yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg gyda Golwg360.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad yn Sgwâr Bulkley roedd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf, y Prifardd Cen Williams, y disgybl ysgol lleol Gwion Morris Jones ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian.

Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder bod 38% o blant Ynys Môn yn cael eu hasesu ar lefel ail iaith yn hytrach na iaith gyntaf.

Diben y rali oedd cyflwyno coeden i’r cyngor sir gan alw arnyn nhw i “blannu’r hedyn ar gyfer twf yr iaith yn ei strategaeth iaith”.

Galwon nhw am addysg Gymraeg i bob plentyn fel eu bod yn gadael yr ysgol yn rhugl.

Yn ôl Heledd Gwyndaf, “mae un nod i gael – medru siarad Cymraeg yn rhugl ym mhob maes o fywyd.”

Dywedodd y Prifardd Cen Williams, “Wneith plant ddim meistroli’r Gymraeg os nad y’n nhw’n cael ei siarad hi.”

Meddai’r disgybl ysgol lleol Gwion Morris Jones mai “cyfle yw’r Gymraeg – rhywbeth sy’n agor drysau, ac nid yn eu cau nhw.”

Yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllian, “Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn gorfod bod yn rhan hollol greiddiol o unrhyw gynllunio ymlaen ar gyfer ‘Miliwn o Siaradwyr’.”