Mae yna arwr newydd ar y wefan gymdeithasol Facebook ar ôl yr hyn sydd wedi ei alw yn berfformiad teledu gorau’r ymgyrch etholiad yng Nghymru.

Mae hyd yn oed yr arch-flogiwr, Guido Fawkes, wedi tynnu sylw at berfformiad ymgynghorydd economaidd Plaid Cymru, Eurfyl ap Gwilym, yn chwalu’r holwr Jeremy Paxman ar Newsnight.

Bellach, mae yna safle Facebook o’r enw We Love Dr Eurfyl ap Gwilym. Er mai pobol Plaid Cymru sydd y tu cefn i hwnnw, mae’r economegydd tawel ei ffordd eisoes wedi denu cefnogwyr o wahanol gefndiroedd.

Mae hefyd wedi cael sylw ar wefannau sy’n gwylio’r cyfryngau, rhai fel Digital Spy a Media Lens.

Erbyn diwedd y cyfweliad byr, roedd Jeremy Paxman wedi cael gorchymyn i wneud ei waith cartre’ ac wedi dechrau cwyno ei fod yn cael ei gamddyfynnu.

Mae’r cyfweliad i’w weld yma

‘Gwych’ meddai Guido

Mae’r negeseuon trydar ar Twitter wedi bod yr un mor ganmoladwy – “gwych” oedd neges Guido Fawkes.

Yn ôl un o golofnwyr papur y Guardian, Grace Dent, fe fydd y Cymry’n cael eu gwahardd o Newsnight ar ôl hyn “oherwydd eu bod yn rhy dda”.

Gan negeseuwr o’r enw Eugene Gallagher y daeth un o’r disgrifiadau mwya’ lliwgar wrth alw Eurfyl ap Gwilym yn ‘Ddyn y Dydd’ ac awgrymu ei fod wedi rhoi pen-ôl Paxman yn ôl iddo.

Cefnogaeth i’r ddadl

Roedd yna gefnogaeth hefyd i’r pwyntiau a loriodd yr holwr – bod mwy o wario cyhoeddus yn ôl y pen yn Llundain nag yng Nghymru.

Ar un adeg, fe geisiodd Jeremy Paxman ddadlau nad oedd Llundain yn “rhanbarth o Loegr” ac fe awgrymodd nad oedd yn gallu dod o hyd i’r ffigurau cywir pan gafodd ei herio.

Yn ôl Eurfyl ap Gwilym, sydd hefyd yn is-Gadeirydd ar gymdeithas adeiladu Principality – “safle aruchel” yn ôl gwawd Jeremy Paxman – mae peryg y bydd y Ceidwadwyr yn torri mwy na sy’n deg ar wario cyhoeddus yng Nghymru.

Llun: Eurfyl ap Gwilym oddi ar y safle ar Facebook