Mae protest wedi cael ei threfnu gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ynghylch ail-agor Neuadd Pantycelyn fel llety Cymraeg i fyfyrwyr.
Bydd yn digwydd ar ddiwrnod agored cynta’r Brifysgol ar drothwy blwyddyn academaidd newydd.
Mae Cyngor y Brifysgol wedi ymrwymo i ail-agor y neuadd erbyn mis Medi 2019, ond mae hynny’n amodol ar y Brifysgol yn dod o hyd i’r £10 miliwn sydd ei angen i wneud gwaith atgyweirio.
Mae grŵp Ffrindiau Pantycelyn, sy’n ymgyrchu i ail-agor y neuadd, wedi mynegi anfodlonrwydd gydag “esgusodion diddiwedd” Prifysgol Aberystwyth ynghylch ail-agor Neuadd Pantycelyn fel llety Cymraeg i fyfyrwyr.
Ym mis Mehefin, dywedodd Canghellor y Brifysgol, Emyr Jones Parry, bod y coleg yn ymroddedig i “ddarparu llety o’r radd flaenaf ym Mhantycelyn ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n dod i Aberystwyth yn y dyfodol”.
Mae’r Brifysgol yn ystyried agor cronfa i ail-agor y llety gan ofyn i gyn-fyfyrwyr am yr arian.
Mae Ffrindiau Pantycelyn hefyd wedi beirniadu’r Brifysgol am wario dros £100 miliwn ar brosiectau eraill, heb ymrwymo’n llwyr i fuddsoddi yn nyfodol Neuadd Pantycelyn.
Yn ôl y grŵp, mae hyn yn “frad ar y myfyrwyr ac yn sarhad ar yr iaith a’r diwylliant Cymraeg”.
Cyfarfod Cyllid y Brifysgol
Mae disgwyl i Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol gwrdd dau ddiwrnod ar ôl y brotest felly mae’r myfyrwyr am roi pwysau ar aelodau i “flaenoriaethu cyllido’r gwaith i adnewyddu ac ailagor Pantycelyn”.
Y bwriad yw dosbarthu taflenni sy’n esbonio hanes yr ymgyrch i ddarpar fyfyrwyr a’u rhieni yn ystod y diwrnod agored.
Bydd y myfyrwyr yn cwrdd am 12:45 y tu allan i lety Penbryn, gan ddal y sgwrs am astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yno am un.
Mae cadw Neuadd Pantycelyn ar agor fel llety Cymraeg wedi bod yn bwnc llosg ar gampws Prifysgol Aberystwyth ers rhai blynyddoedd, gyda myfyrwyr yn protestio a hyd yn oed yn meddiannu’r Neuadd am gyfnod.
Cyhoeddiad yn fuan
“Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi datgan ei bwriad i ail agor Neuadd Pantycelyn erbyn mis Medi 2019 ac fe fyddwn yn gwneud cyhoeddiad yn fuan fydd yn nodi cam arwyddocaol arall ymlaen yn y broses,” meddai llefarydd ar ran y Brifysgol.