Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymuno gydag arweinwyr yr SNP a’r Blaid Werdd i alw ar bleidiau blaengar i weithio gyda’i gilydd i wrthsefyll gwleidyddiaeth “wenwynig” y Ceidwadwyr.

Cafodd y datganiad ei lunio y bore yma rhwng y pleidiau fel ymateb i’r rethreg “gelyniaethus” sydd wedi cael ei glywed yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol yn Birmingham.

Fe ddaw’r datganiad yn dilyn araith yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn cyhoeddi mesurau i geisio lleihau nifer y bobol sy’n dod i wledydd Prydain.

Yn y datganiad – sydd wedi cael ei arwyddo gan Leanne Wood, Nicola Sturgeon o’r SNP, Jonathan Bartley a Caroline Lucas o Blaid Werdd Cymru a Lloegr ac arweinwyr Pleidiau Gwyrdd yr Alban a Gogledd Iwerddon – mae’r gwleidyddion yn ymosod ar y Ceidwadwyr am y “rhethreg mwyaf gwenwynig ar fewnfudo sydd wedi ei weld gan unrhyw lywodraeth o fewn cof.”

“Nawr yw’r amser”

Yn ogystal â mesurau dadleuol Amber Rudd, mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi cyhoeddi cynlluniau sy’n anelu at leihau dibyniaeth y GIG ar staff tramor ac mae’r Phrif Weinidog Theresa May wedi mynnu y bydd rheoli mewnfudo yn rhan o’r setliad Brexit gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Meddai’r datganiad: “Mae gwledydd y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfwng gwleidyddol ac economaidd cynyddol. Yn y Blaid Geidwadol, mae’r bleidlais cul o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd bellach wedi’i ddehongli fel esgus i dorri cysylltiadau ag Ewrop a fyddai’n cael canlyniadau economaidd enbyd – ac fel esgus dros y rhethreg mwyaf gwenwynig ar fewnfudo yr ydym wedi ei gweld o unrhyw lywodraeth o fewn cof.

“Mae hwn yn gwestiwn moesol sy’n mynd at wraidd yr math o wlad yr ydym yn meddwl ein bod yn byw ynddi. Ni fyddwn yn goddef cwestiynnu cyfraniad pobol o dramor i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu fersiwn newydd o’r rethreg rhwygol ‘swyddi Prydeinig i weithwyr o Brydain’.

“Nid dyma’r amser i bleidiau gwleidyddol chwarae gemau neu ufudd barchu’r confensiwn blinedig lle nad ydynt yn torri ar draws cynadleddau ei gilydd.

“Mae’n bryd i ni i ailddatgan pwysigrwydd cydweithio i wrthsefyll gwleidyddiaeth gwenwynig y Torïaid a gwneud yr achos ar gyfer dyfodol gwell ar gyfer ein pobol a’n cymunedau.”