Avril Whitfield Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod rhan o gorff y daethpwyd o hyd iddo ger ynys Llanddwyn ym mis Medi eleni yn perthyn i ddynes oedd wedi bod ar goll.

Roedd Avril Whitfield, 57 oed, wedi bod ar goll o’i chartref yng Nghaernarfon ers mis Ebrill eleni.

Ar 11 Medi, fe wnaeth aelod o’r cyhoedd oedd yn cerdded o amgylch ynys Llanddwyn oddi ar Ynys Môn ddod o hyd i droed ddynol wedi’i golchi i’r lan.

Bellach, ar ôl cyfres o brofion DNA, mae’r heddlu wedi cadarnhau fod y droed yn perthyn i Avril Whitfield.

Dywed yr heddlu nad yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, a bod y Crwner wedi’i hysbysu.

Diolch am ‘gefnogaeth a charedigrwydd’

Ers mis Ebrill, mae’r heddlu wedi cynnal cyfres o chwiliadau, gan gynnwys gan arbenigwyr ac apêl ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y gymuned er mwyn dod o hyd iddi.

Heddiw, mae ei theulu wedi rhyddhau datganiad yn deyrnged iddi:

“Gyda chalon drom, gallwn gadarnhau fod yr esgid gyda’r gweddillion a ganfuwyd ar draeth Llanddwyn yn perthyn i Avril.

“Hoffai ei theulu a’i ffrindiau agos ddiolch i holl bobol Caernarfon a’r ardaloedd cyfagos am eu cefnogaeth a’r caredigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod y misoedd y bu Avril ar goll.

“Roedd Avril yn hoffus iawn ac fe gâi ei charu gan bawb a’i hadnabu.

“Rydym yn galw ar y cyfryngau i barchu ein preifatrwydd yn y cyfnod anodd hwn.”