M4
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd na oedi cyn dechrau ymchwiliad cyhoeddus i brosiect arfaethedig ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

Bydd yr ymchwiliad, oedd i barhau am tua phum mis, bellach yn dechrau ar 31 Mawrth 2017.

Ond ni fydd yr oedi yn cael effaith ar ddyddiad cwblhau’r prosiect yn 2021, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith.

Dywed Llywodraeth Cymru bod swyddogion Llywodraeth Prydain yn yr Adran Drafnidiaeth, wedi cyflwyno dull newydd o gynnal eu rhagolygon twf newydd, ac nad oedden nhw wedi ei rannu ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru.

Mae’r “newid annisgwyl” wedi golygu bod oedi cyn dechrau’r ymchwiliad.

Roedd yr ymchwiliad cyhoeddus i ddechrau ar 1 Tachwedd, ond mae’r newidiadau gan yr Adran Drafnidiaeth yn golygu na fydd yr ymchwiliad yn dechrau tan y flwyddyn newydd, “gan roi amser i ystyried y data newydd.”

‘Siom fawr’

Meddai Ken Skates: “Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi nodi eu bod am weld prosiect yr M4 yn dechrau cyn gynted â phosib, felly mae’n siom fawr inni fod yr Adran Drafnidiaeth wedi dewis cysylltu â ni dim ond tri diwrnod cyn i’r newidiadau hyn i’r rhagolygon traffig ddod i rym, gan ein gorfodi,  yn anffodus, i oedi cyn dechrau’r ymchwiliad cyhoeddus.

“Wrth inni wthio ein cynlluniau ymlaen ar gyfer y Metro i ogledd a de Cymru, mae angen ateb i’r problemau hirdymor sy’n parhau gyda’r M4 o amgylch Casnewydd, sy’n cynnig system drafnidiaeth hirdymor, integredig a chynaliadwy.

“Mae asesiadau yn nodi mai ein prosiect arfaethedig ar gyfer yr M4 yw’r unig ateb rhesymol, ond mae’n bwysig i’r cynigion fod yn destun craffu manwl, mewn modd tryloyw ac agored mewn ymchwiliad, a’n bod yn profi’r prosiect yng ngoleuni’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i sicrhau ein bod yn rhoi’r dewis iawn i bobl Cymru.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni, ac eraill sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad cyhoeddus, bellach yn treulio amser yn adolygu’r ffigurau newydd hyn gan yr Adran Drafnidiaeth cyn i’r ymchwiliad ddechrau.

“Rydym wedi ymrwymo’n bendant i ddarparu ateb cynaliadwy, hirdymor i’r problemau traffig cronig ar y rhan hwn o’r M4, ac rwyf wedi derbyn sicrwydd, ar yr amod y bydd yr ymchwiliad yn cymeradwyo hyn, y bydd Prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn dal i gael ei gwblhau yn 2021.”