Mae dyn 22 oed wedi cae ei gyhuddo ar ôl i bedwar plismon gael eu hanafu gan ddau gi yn Hwlffordd, Sir Benfro dros y penwythnos.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod pedwar o blismyn wedi bod yn gwneud ymholiadau mewn tŷ yn Stryd Goat, Hwlffordd ddydd Sadwrn pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o saith trosedd, gan gynnwys dau o dan Y Ddeddf Cwn Peryglus.

Fe fydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Llun, 3 Hydref.

Dywed yr heddlu bod y dyn hefyd wedi ei gyhuddo o fod a chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u gwerthu, ymosod a thwyll ariannol.

Mae dau ddyn a dwy ddynes arall a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.