Zoe Morgan - llun teulu, trwy law Heddlu De Cymru
Fe fydd dyn 20 oed yn ymddangos o flaen ynadon Caerdydd heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio dau gariad.

Fe gafodd Andrew Saunders o Gas-bach, Casnewydd, ei arestio gan Heddlu De Cymru ddoe ar ôl yr ymosodiad yng nghanol y brifddinas nos Fercher.

Mae’n ymddangos bod Zoe Morgan, 21, a Lee Simmons, 33, wedi cael eu trywanu ar eu ffordd o’u gwaith yn siop Matalan yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant.

Roedd y ddau wedi bod yn canlyn ers yr haf ac mae’r siop wedi bod ynghau ers y digwyddiad.

Fe gafodd Andrew Saunders ei gyhuddo o lofruddiaeth neithiwr.