Mae 60% o oedolion Cymru wedi cael eu heffeithio’n negyddol dros y flwyddyn ddiwethaf o ganlyniad i rywun arall sy’n yfed alcohol.

Dyna ganfyddiad adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl ar ôl holi 1,071 o oedolion Cymru.

Roedd y canlyniadau’n amlygu fod 18% wedi teimlo o dan fygythiad corfforol, 11% yn sôn am ddifrod i eiddo, 5% wedi dioddef trais corfforol a 5% yn pryderu am les plentyn.

‘Niweidio’r yfwr, ffrindiau a’i deulu’

“Mae pobl yn fwyfwy ymwybodol o risgiau personol canserau a chlefydau eraill sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol,” meddai’r Athro Mark Bellis ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn dangos sut gall alcohol niweidio’r yfwr yn ogystal â’i ffrindiau a’i deulu.

“Mae rhai o’r niweidiau hyn oherwydd trais meddw, ond mae eraill yn deillio o ddamweiniau, bygythiadau neu broblemau ariannol pan fo gormod o incwm aelwyd yn cael ei wario yn sgil arferion yfed rhywun,” meddai.

‘Rhan flaenllaw’

 

Roedd tuedd ymhlith pobol ifanc i adrodd am effeithiau negyddol yn sgil yfed rhywun arall, gyda 70% o bobol rhwng 18-30 oed a 75% o bobol 35-44 oed wedi dioddef effeithiau negyddol.

“Mae yfed yn nodwedd o’r rhan fwyaf o fywydau cymdeithasol pobol ac mae’r cwmnïau diodydd mawr yn awyddus i ddod o hyd i fwy a mwy o resymau i ni yfed,” meddai Andrew Misell, Cyfarwyddwr Alcohol Concern Cymru.

“Mae’n rhaid mai dyma’r adeg i ofyn a ydyn ni am i alcohol chwarae rhan mor flaenllaw mewn cynifer o  feysydd bywyd.”

Yn ogystal, nododd 11% eu bod wedi gorfod cysylltu â’r heddlu am y digwyddiadau, 29% wedi teimlo’n orbryderus, 20% wedi bod mewn dadl ddifrifol, 19% wedi’u siomi a 6% wedi troi at yfed eu hunain er mwyn ymdopi.