Mae dau fachgen ysgol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic a char y tu allan i ysgol yng Nghei Connah, Sir y Fflint fore dydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw i’r safle ar Ffordd Golftyn am tua 8:30yb yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng car a beic.

Fe aed a’r ddau fachgen i Ysbyty Iarlles Caer; un gyda man anafiadau a’r llall gydag anafiadau y credir sydd ddim yn rhai difrifol.

Mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.