Mae seiclwr 38 oed y cafwyd hyd iddo’n anymwybodol ar ochr ffordd fore Sadwrn wedi marw.

Roedd y dyn yn gorwedd ar ymyl yr A487 ger Minffordd pan gafodd ei ddarganfod toc cyn 6.30 y bore.

Cafwyd ymdrechion i’w achub ond fe fu farw.

Dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.