Mae Prif Weinidog Cymru wedi llongyfarch Jeremy Corbyn ar gael ei ail-ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, ond mae wedi galw am undod a chydweithio er mwyn ymladd y llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

“Fe garwn i longyfarch Jeremy heddiw,” meddai Carwyn Jones. “Mae’n beth mawr i ennill un ymgyrch i fod yn arweinydd; mae ennill dwy ymgyrch yn arbennig.

“Rwy’n cydymdeimlo ag Owen,” meddai wedyn. “Mae wedi ymladd ymgyrch dda, ac rwy’n gwybod ei fod yn edrych ymlaen at droi ei ffocws, a sianelu ei frwdfrydedd, yn y misoedd nesa’ tuag at ymladd y Torïaid.

“Dyw hwn ddim wedi bod yn gyfnod hapus i’r Blaid Lafur, ac mae’r wlad wedi cael ei hamddifadu o wrthblaid effeithiol y mae gyda nhw’r hawl i ddisgwyl yn San Steffan. Mae’n rhaid i ni weithio’n galed nawr er mwyn gwneud yn iawn am hynny.”