Mae heddlu’n apelio am dystion, wedi i ddynes 73 oed gael ei lladd mewn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd ddydd Gwener.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i safle’r ddamwain, y tu allan i’r Queen’s Hotel ar Stryd y Bont, yn gynnar y prynhawn.

Roedd y gerddwraig wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae dyn 28 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal, ac mae’n dal i fod yn y ddalfa gan Heddlu Gwent.