April McMahon
Mae mudiad o’r enw ‘Ffrindiau Pantycelyn’ wedi beirniadu faint o arian a wariodd Prifysgol Aberystwyth ar gynnal parti gadael i’w Is-Ganghellor.
Mewn ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth a ddaeth i law golwg360, dywedodd y Brifysgol ei bod wedi gwario bron i £850 – £843.65 yn union – ar arddwest i’r Athro April McMahon ar ddiwedd tymor yr ha’ eleni.
Roedd hyn yn cynnwys diodydd oer a theisennau mewn parti awyr agored cyn i’r Is-Ganghellor adael ym mis Gorffennaf.
Mae Ffrindiau Pantycelyn yn dweud bod gwario’r arian yn mynd yn “groes i bob synnwyr cyffredin” o ystyried bod y Brifysgol yn “mynnu bod arian yn brin” a’i bod wedi ymrwymo i ail-agor Neuadd Pantycelyn.
Mae disgwyl i’r neuadd, sef cartref llawer o fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, agor yn 2019, ond bod hynny’n amodol ar sicrhau “cyllid angenrheidiol” yn ôl y Brifysgol.
“Croes i synnwyr cyffredin”
“Ar ôl i’r Brifysgol fynnu bod arian yn brin a bod hyn yn peryglu ailagor Neuadd Pantycelyn, mae’n groes i bob synnwyr cyffredin fod y Brifysgol wedi talu bron â mil o bunnoedd i gynnal parti ffarwelio i Is-ganghellor sydd wedi gyrru’r Brifysgol i’r affwys,” meddai llefarydd ar ran Ffrindiau Pantycelyn.
“Mae hyn yn peri cryn bryder i unrhyw un sydd am weld y Brifysgol yn ffynnu, ac rydym yn galw ar y Brifysgol i fuddsoddi’n bwyllog ac i gadw at ei gwir flaenoriaethau ariannol megis ailagor Neuadd Pantycelyn.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth, “Mae’n arfer pan fo Is-Ganghellor yn gadael ei swydd i gynnal digwyddiad o’r fath sy’n rhoi cyfle i gydweithwyr ddod at ei gilydd i nodi diwedd cyfnod.
“Nid oes cymhariaeth gyfatebol rhwng y gwariant o £850 ar y parti ffarwél yma a’r bwriad i wario £10miliwn ar Neuadd Pantycelyn. O ran ail-agor Pantycelyn, mae cam nesaf y gwaith pensaernïol bellach ar waith er mwyn sicrhau bod modd cychwyn ar y gwaith adeiladu cyn gynted ag y bydd y cyllid wedi ei gadarnhau.”